Ymgynghoriad yn fyw
Rydym yng nghyfnodau cynnar iawn datblygu ein cynnig ar gyfer Fferm Wynt Carreg Wen. Rydym nawr yn cynnal ein hymgynghoriad anffurfiol cyntaf, gan rannu gwybodaeth fanylach am ein cynlluniau a'n harolygon cynnar, a chynnal ymgynghoriadau ar-lein a digwyddiadau wyneb yn wyneb.
Dewch draw i'n digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb i siarad â'r tîm a defnyddio ein meddalwedd ddigidol a fydd yn gadael i chi weld sut olwg fyddai ar y fferm wynt yn y dirwedd leol:

Digwyddiad 1
Dydd Mawrth 21 Hydref
3.15-6.15pm
Ysgol Gynradd Cwmaman
Heol Glanaman, Cwmaman,
Aberdâr CF44 6LA
Digwyddiad 2
Dydd Mercher 22 Hydref
2-7pm
Clwb Ieuenctid Glyn Rhedynog,
Ysgol Gymuned Glyn Rhedynog,
Maerdy CF43 4DJ
*parcio o 3.15pm
Digwyddiad 3
Dydd Sadwrn 25 Hydref
9am-2pm
Canolfan Hamdden Sobell
Yr Ynys, Aberdâr CF44 7RP
Os na allwch ddod i un o'n digwyddiadau yn bersonol, bydd arddangosfa rithwir ar gael yma o 21 Hydref.
Rhannu eich barn
Rydym yn meddwl mai'r amser gorau i lenwi ffurflen adborth yw ar ôl i chi fynd i un o'n digwyddiadau neu ymweld â'r arddangosfa rithwir.
Yn ein digwyddiadau bydd byrddau gwybodaeth manwl ynghyd ag offeryn delweddu fel y gallwch gael syniad o sut olwg fyddai ar y prosiect yn y dirwedd leol. Bydd ein tîm hefyd wrth law i sgwrsio â chi am y prosiect. Yna byddwch chi yn y sefyllfa orau i rannu'ch barn â ni.
Bydd ein ffurflen adborth yn ymddangos yma ddydd Mawrth 14 Hydref.
Cwblhewch eich ffurflenni erbyn 18 Tachwedd 2025.
Ymgysylltu â'r gymuned yn y tymor hwy
Byddwn yn mynd allan i gwrdd â phobl ac yn mynychu digwyddiadau lleol, i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect a chlywed gan bobl sut y gallwn wneud hwn y prosiect gorau i’r gymuned leol ac i Gymru.
Ymhen ychydig dros flwyddyn, rydym yn disgwyl cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol lle byddwn yn cyflwyno ein cais cynllunio drafft llawn gan roi cyfle i'r cyhoedd ac ymgyngoreion statudol roi adborth.
Tanysgrifiwch i gylchlythyr Carreg Wen
Cofrestrwch i dderbyn y diweddaraf am y prosiect gan y tîm.
Tanysgrifiwch
Hoffem glywed gennych chi
Rydym yn croesawu adborth a chwestiynau unrhyw bryd, felly cysylltwch â thîm y prosiect os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Cysylltwch â ni